Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
26 Tachwedd 2018
SL(5)279 – Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Sir Gaerfyrddin) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi Sir Gaerfyrddin yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau a thraffig sy’n symud at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae Sir Gaerfyrddin eisoes wedi ei dynodi yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio o dan y Ddeddf honno gan Orchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gaerfyrddin) 2004 (O.S. 2004/104 (Cy. 11)).
Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoli Traffig 2004
Fe’u gwnaed ar: 13 Tachwedd 2018
Fe’u gosodwyd ar: 15 Tachwedd 2018
Yn dod i rym ar: 10 Rhagfyr 2018